Yr oeddwn yn hoff iawn o ffuredu cwningod. Fel y gŵyr y cyfarwydd, rhaid taenu rhwydi (os rhai bychain a arferir) ar y tyllau o bobtu'r clawdd a'u gwylio gan ddau heliwr, un bob ochr i'r gwrych. Gan nad oedd gennyf frawd, Jack, fel rheol, oedd fy unig gydymaith. Daeth yn ddigon hyddysg cyn hir i ofalu am un ochr i'r clawdd ar ei ben ei hun a rhoi imi'r arwyddion gofynnol. Fe laddai'r gwningen yn y rhwyd ag un brathiad effeithiol; wedyn sefyll o'r neilltu i warchod y rhwydi eraill a dwyn. y ffured yn ôl gerfydd ei gwddf, heb anafu dim arni, pe digwyddai iddi grwydro allan i'r cae.
Lletywn y ffured mewn cut yn yr ysgubor; a da y cofiaf y noson y mynnai Jack fod llygoden fawr dan y bwrdd dyrnu isel— rhy isel iddo ef fynd dano-ar ganol y llawr. Wedi rhedeg gylch ogylch am beth amser, aeth i'r gornel a gosod ei ddwy bawen flaen ar gut y ffured; wedyn syllu i fyny ataf tan siarad yn erfyniol yn ei ffordd ei hun, a minnau'n ei ddeall i'r dim: "Defi bach! Yr wyt yn gweld fy mhenbleth—llygoden