Tudalen:Ysgrifau (Dewi Emrys).djvu/120

Gwirwyd y dudalen hon

cadno (wow!), nid draenog (wow!), nid mochyn daear (wow!), nid gwenci (wow!), nid ffwlbart (wow!), ond morlo (?)... Yr oedd yr anghenfil hwnnw y tu allan i'w eiriadur; ond yr oedd yr ymofyn mud yn ei lygaid yn llawn mor huodl a'r "wow" a amlygai ei adnabyddiaeth o'r creaduriaid eraill a enwais. Mwy na hynny, yr oedd ei wrychyn i fyny gan awydd dychrynllyd i'w gyflwyno i'r creadur anghyfeillgar hwnnw. cyn gynted ag y medrwn. Ond-y nefoedd fawr!-rhyfedd oedd teimlo mor sychedig ar ôl llyncu cymaint o ddŵr. Yn ben- difaddau, nid llyn y felin oedd bae Wdig!

Yr oedd yn hoff iawn o Bess y gaseg; a'i wledd fawr oedd cael carlamu wrth ei hochr i dref Abergwaun; ond ni ddilynai bob. cam o'r ffordd. Yr oedd Jack yn gallach na hynny. Wedi cyrraedd gwaelod Rhiw Drefwrgi, fe groesai'r waun heibio i fferm Y Drum, ac aros am danom wrth odre Rhiw Windi Hal yn hytrach na'n canlyn heibio i'r Dyffryn a thros y Barrog. Wrth ein cyfarfod drachefn, fe noethai ei ddannedd mewn chwerthin mawr gan neidio i fyny at