drwyn y gaseg ac edliw: "Yr wyt ti'n gyflym, Bess! Ond yr wyf fi'n gyflymach na thi mewn rhai pethau!
Yn ystabl yr un gwesty y lletywn y gaseg bob tro y marchogwn i'r dref. Ai yntau, Jack, ar grwydr am dipyn o garu, a dychwelyd yn awr ac eilchwyl i'r ystabl er cael allan a oedd Bess yno, a minnau heb gychwyn ar y daith tua thre; ond gorfu iddo ymladd yn galed am yr hawl i fynd trwy ddrws yr ystabl i wneud yr ymholiadau hyn. Bob, ci John y gwastrodwr, oedd yr anhawster; hwnnw, ar y dechrau, yn mynnu ei atal, a dadlau mai ef oedd gwyliwr y porth.
"Edrych yma," meddai Jack wrtho un noswaith, "a bydd yn rhesymol. Eisiau gweld yr wyf a yw Bess i mewn yn y stabl yna. Os ydyw, popeth yn dda; mi af am dipyn o garu eto. Os yw wedi mynd, mae'n rhaid i mi frasgamu ar ei hôl nerth fy maglau. Yn awr, gad imi gael un pip bach!"
"Dim un pip!" heriai Bob, a'i wrych i fyny yn storm o afresymoldeb.