"Yr wyt yn gofyn am drwbwl, cofia!" dadleuai Jack. "Yr wyf yn penderfynu setlo'r fusnes hyn heno, unwaith am byth. A wyt ti am roi ffordd?"
"Dim un pip!" taerai Bob drachefn, gan chwyrnu'n gas. Ond cyn iddo gael ei anadl ato'n iawn, yr oedd Jack i mewn iddo, yn lloerig gan gynddaredd cyfiawn.
Ymglymodd y ddau ymladdwr yn ei gilydd ac ymdreiglo'n belen o ffyrnigrwydd brathog i ganol llawr yr ystabl; a dyna'r ceffylau hefyd yn ymuno yn nherfysg yr ysgarmes gan wichial a thaflu eu pedolau ôl i'r entrych yn gylchau gloywon o fellt. Yng nghanol y randibŵ fawr dyma John i mewn ac yn ysgubo'r ddau ymladdwr allan i'r heol. Canlyniad eu brwydr y noson honno oedd cymodi a dyfod yn ffrindiau anghyffredin. Yn wir, anaml, wedi hynny, y cychwynnai Jack tuag adref na fynnai Bob ei hebrwng allan o'r dref a chymryd ei ran yn erbyn pob llechgi a ruthrai allan ato ar y ffordd. Canent yn iach i'w gilydd ar ben Rhiw Windi Hal, a Jack yn mwmian wrthyf wedyn: "Hen fachan reit ffein yw Bob