Tudalen:Ysgrifau (Dewi Emrys).djvu/123

Gwirwyd y dudalen hon

yn y gwaelod, ond ei fod yn credu taw fe piau'r stabl yna."

Tro rhyfedd oedd hwnnw yn Wdig pan farchogodd fy nhad trwy'r pentref a Jack yn trotian wrth ei ochr â dysgl yn llawn baeddgig yn ei geg, a gosgordd o gŵn gobeithiol wrth ei gynffon-pob un ohonynt yn ei adnabod yn rhy dda i ddechrau ymrafael. Yn gelfydd iawn y cariai Jack y ddysgl-ei hymyl isaf rhwng ei ddannedd, a'i chantel uchaf yn gorffwys ar ei dalcen. Yr oedd Jack, fel y cewch glywed, yn hoff iawn o bregethu fy nhad; ond rhaid cyd- nabod iddo ymyrryd yn ofnadwy ag urddas y weinidogaeth y diwrnod hwnnw. Unig ffordd fy nhad o ddianc rhag cywilydd oedd gado'r pentref ar garlam. Cefais allan wedi hynny mai eiddo dwy hen ferch y llythyrdy oedd y danteithfwyd y methodd Jack ymatal rhag ei ladrata. Gadawsent y saig ar y llawr i oeri a chaledu, nid i ddiflannu fel breuddwyd, a'u hamddifadu o swper blasus. Credaf i'r lleidr bach edifaru llawer am ei drosedd; oblegid yn euog iawn wedi hynny y cripiai heibio i hen ferched y llythyrdy;