heb gymorth amseroni, mai nos Sadwrn ydoedd. Nid oedd sôn amdano ar y buarth fore Sul; a chawn innau alw a chwibanu fy mherfedd allan cyn yr ymddangosai, er fy mod yn dra sicr ei fod yn llercian yn y cyffiniau. Gallwn fentro fy mhen y cawn ei weld yn y capel—yn disgwyl wrthyf yn y sedd neu ynteu'n ymlusgo i mewn yn llechwraidd wrth gynffon rhyw addolwr amhrydlon.
Nid ffordd y saint a ddilynai ef wrth gyrchu'r addoldy, ond dringo ffordd arall fel ysbeiliwr—croesi'r waun a'r mynydd, ymwthio trwy'r perthi a llamu'r cloddiau ar ei ben ei hun—rhag i mi ddigwydd ei weld a'i yrru'n ôl.
Os aeth creadur erioed i foddion gras dan anawsterau, a mynnu bod yno hefyd, Jack oedd hwnnw.
Dan gysgod y Garn Fawr y gorwedd heddiw, ei glustiau astud yn rhy fyddar i glywed dwndwr y môr yn ogofeydd Pwll Deri, a chadwyn na allodd neb ei thorri yn ei ddal rhag crwydro mwy. Fe'i claddwyd yn barchus gan hen ffrind i mi sydd yn aros