Y FALEN
GORCHWYL anodd yw ceisio penderfynu pa un ai rhyw chwiw neu fympwy yw'r Falen, neu ynteu glefyd gwirioneddol y gellir trefn a dosbarth arno ymysg doluriau anochel y ddynoliaeth. Os clefyd, ni chlybûm i erioed am feddyg a allodd ei ddadansoddi ac olrhain ei achos.
Beth ynteu am y driniaeth gymwys er iachâd neu esmwythyd y trueiniaid ddioddef oddi wrtho? Clywais ofyn am foddion at boenedigaethau fel y ddannodd, cryd cymalau, gwayw a doluriau diamwys eraill y gellir eu lleoli; ond ni chlywais erioed geisio ffisig at Y Falen. Yr wyf yn dra sicr hefyd na fedd na fferyllydd na doctor dail foddion a gymysgwyd yn un swydd ar gyfer yr anhwylder annirnad hwn. Cyflwr meddwl neu ysbryd ydyw, gallem dybio, a'i sylfaen ar ddiddim, a'i waelodod oes gwaelod iddo—yn ddirgelwch anchwiliadwy. Eithr yn fwy anesboniadwy na'r cwbl, pobl yw caethion Y Falen y mae'r syniad am wella yn peri iddynt deimlo'n waeth. Y maent yn rhy ddychrynllyd o