ddrwg iawn, neu ni fuasai mor ymwybodol ohoni. Teimlai wedyn—ar ôl barddoni—fel gŵr y treiglwyd maen anferth oddi ar ei enaid, chwedl yntau.
Ond y mae peth felly yn rhy beiriannol, neu ffurfiol, i fod yn Falen o'r iawn ryw. Wrth raid, neu heb yn wybod iddynt, yr ymollyngir i brydyddu gan etholedigion Y Falen Wir; a'r peth diwethaf a chwen— ychant yw cael llonydd ganddi. Yn hytrach, eu dymuniad yw:
O am aros yn ei chwmni ddydd a nos!
Y gwir yw mai hi ei hunan sy'n eu cymell i farddoni, fel y mae gosod llen dros gell ambell aderyn yn ei hudo yntau i byncio; a chlywais am beth mor greulon â phigo llygaid ehedydd caeth er mwyn ei annog, druan bach, i ganu yng nghwmwl ei ddallineb ei hun.
Cofiaf, ar yr un pryd, mai'r pruddglwyf yw consêt pob llipryn o grwt a fynno'i ystyried ei hun yn fardd. Eithr difrifoldeb "gwneud," fel dannedd gosod, yw peth felly—troi'r Falen yn rhith dwyster a