Tudalen:Ysgrifau (Dewi Emrys).djvu/22

Gwirwyd y dudalen hon

a fu "mewn hanner cariad ag angau lleddfus" a ganodd un o delynegion mwyaf cyfareddol y byd. Delw Keats sydd arni, bid sicr; a thelyneg i'r eos yw honno. Mentrais led-gredu mai'r Falen yw mam yr awen. Hynny, fe ddichon, sy'n gwneud ei gormes yn faich mor dderbyniol i'w chaeth- ion hapus-luddedig. Gwrandawer ar Milton yn ei chyfarch:

Hail, thou goddess sage and holy!
Hail, divinest Melancholy!

Rhyfedd clywed croesawu rhywbeth a bair i ddyn gredu mai bod yn athrist yw uchder gorfoledd. Onid meddw neu hurt y gŵr hwnnw a yfo wermod tan daeru mai gwin ydyw? Eithr dyna effaith anghyson Y Falen ar y goreugwyr a darewir â'i hud. Syllant i'w hwyneb dichwerthin, a'i galw yn wynfydedig. Trônt gyda hi i'r encilion, a chyfrif ei chwmni yn gyfaredd cyfeillach. Ant yn sâl o gariad ati—yn rhy fendigedig o sâl i ddymuno gwella byth.

"Dedwydd i'm gell a'm didol," ebr Goronwy o Fôn. Ar rai o'r un aren ag ef,