WRTH annerch cymhares y ceir hyd yn oed hen lanciau yn ei choledd a dotio arni, cystal imi addef ar unwaith fod "Fy Mhib" yn swnio'n fwy annwyl i mi na "Fy Nghetyn." Bid sicr, methu ag anghofio yr wyf yr ystyr bychanus sydd i'r gair "Cetyn" yn y Deheudir. Fy anffawd yw hynny, minnau'n gwybod bod iddo felyster odiaeth i lawer o Gymry gwych na fedrant, fwy na minnau, edrych ar bren ceirios na draenen ddu na gwreiddyn miaren, na thelpyn o glai chwaith, heb fawrygu deunydd yr eilun a addolant.
Nid ni'r ysmygwyr sy'n gyfrifol am y dynged dafodieithol a bair inni gyfarch ein heilun wrth wahanol enwau; a mwyn yw sylweddoli ein bod oll yn gyfrannog o'r un gwynfyd yn ein perthynas â'r eilun ei hun, a chofio mai ein dull o dalu gwrogaeth iddi, a hwnnw'n unig, sy'n amrywio.
Heddiw, er hynny, a mi—yn enw brawdoliaeth gyffredinol yr arogldarthwyr—yn ceisio cynnwys y gair "Cetyn," cydymdeimler â mi am fy anallu i dynnu diddanwch