yng ngenau'r llefarwr. Gall rhoddi sŵn trwynol iddo ennyn cymeradwyaeth a llawenydd lle'r achosai sŵn gyddfol derfysg a chyflafan. Fe gollodd llawer estron ei ben yn llythrennol yn y wlad honno am i air a fuasai'n "Hawddamor!" yn ei ffroen droi'n "Drato, chwi'r moch!" yng nghorn ei wddf. Peth ofnadwy yw gorfod marw am athrodi pobl, a chwithau'n bwriadu bendith iddynt.
Yn y fro lle'm ganed, erys eto liaws o ysmygwyr nad yw'r gair "Cetyn" yn golygu dim iddynt oddieithr dernyn neu dameidyn. Heblaw hynny, gair ydyw a ddwg gysgod anfri o'i gymhwyso at gyd- ddyn. Lle cyfeirir at frodor fel "cetyn bardd," neu "rhyw getyn o fardd," nid bardd ifanc a olygir, ond un-ar waethaf ei chwŷs rhigymllyd—wedi methu'n lân â thyfu'n fardd. Trymach fyth y gwarthrudd pan sonier am gennad y pulpud fel "cetyn pregethwr." Nid dechreuwr a feddylir, ond un a ddaliodd ati ar hyd ei oes heb erioed gyfiawnhau'r ymadrodd, "llenwi'r pulpud."