Mae'n ddrwg gennyf fod yn rhaid i arogldarthwyr y Deheudir droi i fyd y Sais cyn darganfod yr un cynhesrwydd ymadrodd ynglŷn â'r bibell ysmygu. "Lady Nicotine" yw'r anwylyd hyd yn oed yn y byd claear hwnnw. Meddylier, o ddifrif, am ei galw yn "Sir Nicotine!" Chwarae teg i'r Sais hefyd. Medr yntau amlygu gwresogrwydd defosiwn yn nheml ei eilunod.
Mae'n anodd dirnad paham y gomedd y Gogleddwr i'r Bibell swyn a rhagorfraint pendefiges, ac yntau'n honni'r fath gariad tuag ati. Clywais ddadlau bod mwy o sefydlogrwydd i edmygedd diffwdan y Gogledd nag i benboethni stwrllyd y De; nad mewn coelcerth rwysgfawr, fel lliwiau'r enfys, yr amlygir y ffyddlondeb a bery hyd y diwedd:
Ni phara bwa'n y byd.
Tuedd traserch tanllyd yw llosgi allan yn fuan, fel mai perygl edau a fo'n rhy dynn yw torri'n fuan. Dichon y gwelir y Gogleddwr yn eistedd yn wynfydedig ar ei bentwr myglys, a'i getyn hoff rhwng ei ddannedd,