ef yn bendant ar y pwynt. Felly, gwell yw troi at englynwr arall sydd yn hollol ddiamwys ar y pen hwnnw.
Lle cyfyd aroglau'r safwyrdan pêr, rhyw Forfudd ddiddanus a wêl yr englynwr hwn, a hithau'n dwyn gofidiau ei phrydydd ar ei hallor ei hunan. Gwrandawer ar ei folawd iddi:
Hi a rydd dangnef i'm bron;—gyda'i mwg
Daw i'm heirdd freuddwydion.
Yn lludw y try trallodion
Llawer awr ar allor hon.
"Fy Mhibell" yw testun yr englyn hwn; ac y mae'n rhaid i bob ieithydd gydnabod na ellid molawd felly i wrthrych a elwir yn Getyn.
"Fy Mhib," ffurf anwylach ar "Fy Mhibell," yw fy eilun i mi, fel y geilw cariadfab ei Sali yn Sal, a'i Olwen yn Ol; a'r un modd y'i cyferchir gan bawb yn y Deheudir.
Gan nad beth a awgrymir i'r Gogleddwr gan Fy Mhib, melyster cynghanedd sydd yn yr enw i mi. Cofier yr ymadrodd, "Pibau aur y gwanwyn." Onid sŵn