Tudalen:Ysgrifau (Dewi Emrys).djvu/38

Gwirwyd y dudalen hon

chetyn yn ei geg? A fu i ysbryd heddwch well cynrychiolydd? Gellir mynd i ymrafael â dyn arall â baich ar gefn; ond y mae pibell rhwng dwy wefus yn glo ar ymryson ac yn atalfa ar dafod athrodus.

Merch tangnefedd yw fy anwylyd i trwy'r byd mawr achlân. Dyna reswm da dros ei charu; a hyfryd gennyf yw sôn am Ogleddwr a'm hargyhoeddodd heno (ar ôl i mi ddechrau'r ysgrif hon) nad oedd ef yn ail i'r Deheuwr yng ngwres ei serch tuag ati. Yn wir, aeth cyn belled â phrofi bod "Cetyn" y Gogledd yn uwch teyrnged i anwylyd yr ysmygwr na "Phibell" y De. Pa un oedd gwrthrych godidocaf y galon—merch a gerid, ynteu duw a addolid? Y Bibell! Dyna gariadferch y De. Y Cetyn! Dyna eilun y Gogledd!

Peth arall. Cymaint oedd anwyldeb y Gogleddwr o'i eilun nes peri iddo gynhyrchu deunydd y poethoffrwm yn ei ranbarth ei hun. Yr oedd iddo air clodforus na feddai'r Deheuwr ei hafal ym myd myglys; a hwnnw oedd "Amlwch." Onid am fod iddi gymaint o lwch baco y rhodded i'r dref