EISTEDDAF yr awron o flaen fy ffenestr, a'm dyled yn fawr i Ragluniaeth am annedd ynghanol y wlad ar ôl fy nhrafferthion rhwng muriau caethiwus y dref. Y mae hi'n wanwyn hefyd, a'r coed yn ymddilladu o'r newydd, ac addewidion haf yn glasu'r meysydd a ddisgwyliodd gyhyd am orfoledd blagur a chân.
Fy hyfrydwch yw cael ymddihatru o'm dillad gwaith ac ymgolli'n freuddwydiol yn yr eangderau tawel a ymestyn o'm blaen. Am ysbaid, o leiaf, darfu'r caethiwed a warafun imi olud a phendefigaeth yr enaid. rhydd. Caf gyfle heddiw i gymuno â natur heb ofni nac awdurdod meistr nac ymyrraeth pobl ffwdanus y mae arnaf ddyled iddynt. am bethau'r farchnad.
Rhaid wrth hamdden dilyffethair i fwynhau sacrament y ffenestr glir. Beth a dâl cipolwg frysiog ar ogoniant na ddygymydd â dadwrdd y palmant a rhuthr heolydd y ddinas? Tlawd yn wir y neb a syllo drwy ei ffenestr heddiw heb deimlo dyfnder yn galw ar ddyfnder, a'i ysbryd yn dianc o afaelion