Oruchwyliaeth Newydd yn croesawu'r goleuni; yr Hen yn ei gau allan hyd yn oed a'i chwareli gwydr, nes peri i chwi ofyn i ba ddiben y defnyddiwyd gwydr o gwbl rhagor pren neu blwm.
Mi wn am ddau hen gyfreithiwr crwm a phenfoel a'ch cablai pe ceisiech lanhau tipyn ar ffenestri'r swyddfa. Wrth lewych llusernau nwy y plygant, o fore glas hyd hwyr, uwchben eu memrynau cymhleth, er bod ffenestr eu hystafell yn ddigon helaeth i ollwng y dydd i mewn pe tynnid oddi arni y gramen anhydraidd a lŷn wrthi, er cyn co, fel pruddglwyf henaint. Wrth yr un llewych nychlyd yr ymbalfala'u gwasanaethyddion ynghanol cofnodion ac ystadegau diddiwedd, a chruglwyth papurau—gweithredoedd a chytundebau—yn byramidiau llychlyd o'u hamgylch. Tebyg yw hil y swyddfa honno i dyrchod daear a gâr y tywyllwch yn fwy na'r goleuni am mai ym myd y tywyllwch y daliant eu hysglyfaeth; a gellid tybio bod croeso mawr yno i bob corryn a deifl gywreinwaith rhwydi niwlog dros y ffenestri. Yn wir, clywais alw'r