Tudalen:Ysgrifau (Dewi Emrys).djvu/46

Gwirwyd y dudalen hon

gwehyddion baglog hyn yn bartneriaid y ffyrm. Y mae'r ffenestri budr yn talu—felly y dadleua'r hen gyfreithwyr—am eu bod yn cadw llygaid y clercod rhag crwydro i fyd nad yw'n perthyn i'w dyletswyddau. Dwy ferch sydd yn yr ystafell nesaf i'r stryd; a lle bo chwilfrydedd yn dreth ar ddiwydrwydd, dichon y gellir cyfrif ffenestr gymylog yn ddisgyblaeth fuddiol; canys ni pherthyn "y rhyw deg," bid sicr, i'r blodeuyn gweddw "a aned i wrido'n anwel a gwastraffu ei bersawr ar awel y diffeithwch."

Y mae ffenestri llydain "Yr oes Olau Hon" yn nodweddiadol iawn o fawr-frydigrwydd ei meddwl, ei chroeso i ddiwylliant, a'i dirmyg o'r hen bethau a anwylid gan y tadau. Ond ynghanol y cwbl, gellir enwi tri math ar ddyn a fedr hepgor ffenestr a goddef y tywyllwch heb deimlo baich ei enbydrwydd. Dichon nad goddef;; y tywyllwch y dylwn ei ddweud, ond dileu'r tywyllwch; oblegid hynny a wneir gan bob dyn a fyddo dan lywodraeth rhyw ysfa ysgubol a bair iddo anghofio pob