Yr ateb yw bod llawer o saint hefyd yn ymwadu â'u golud materol o'u gwirfodd ac yn dewis adfyd am i wrthrych arall fynd. â'u bryd. Try mab y plas i ogof y meudwy; etifedd y faenor i gell y mynach. Ac nid trwy ffenestr risial y gwelant eu cyfoeth mwy.
Felly hefyd am y Bardd yntau yn ei berthynas â'r eilun a elwir yn Awen. Dywedir mai rhagorfraint y Bardd yw ei allu i fwynhau mewn myfyr olygfeydd nas gwerthfawrogir gan ddynion yn gyffredin ond trwy gymorth y llygad noeth. Gall ef, hyd yn oed yn nhŷ'r caethiwed, gydymdeimlo â'r bobl hynny y rhaid iddynt wrth oleuni cyn medru dal godidowgrwydd llun a lliw. Iddo ef, gwir ddeillion y byd yw'r deillion llygeidiog hyn—pobl ddigrebwyll. Lle'r edrychant, ni welant ogoniant pethau am mai pobl un ffenestr ydynt. Eithr pa dreth ar olygon y Bardd yw peri i'r llenni ddisgyn dros y chwareli gwydr? Pa atalfa ar ei ddarfelydd yw dwyn oddi arno'r llygaid cnawd y dywedir mai ffenestri'r enaid ydynt? Pwy a dyn lygad ei ddychymyg? Pwy a deifl amdano ef fur o