hun mewn diffeithle pell, heb iddo na chymar na châr yn agos, a dim ond hen gaban garw o goed yn lloches iddo ddydd a nos. Gwelsai fy nghyfaill ddwyn alltudion felly yn ôl i dir gwareiddiad yn greaduriaid gwallgof, tawedog,—yr unigrwydd mawr wedi eu hurtio a'u trechu'n llwyr.
Fe'm synnwyd braidd gan ateb fy ffrind wedi imi ofyn iddo sut ddynion oedd y rheini a amhwyllai yn yr unigeddau.
"Dynion," meddai, "heb iddynt fawr o adnoddau meddwl. Mewn gair, dynion. diddychymyg. Gwŷr y cynheddfau byw, ag iddynt awen a darfelydd, sy'n medru dal yr unigeddau. Sylwch, er enghraifft, mor hoff o fiwsig yw'r hen arloeswyr yn Canada a'm gwlad innau."
Fel arall yr arferwn dybio. Ond wedi ail-ystyried pethau, sylweddolais mai ar feddwl gŵr digrebwyll, o angenrheidrwydd, y pwysir drymaf gan weddwdod ac unigedd. Erys yn yr unfan gan mor fyr ei gyraeddiadau. Ef yw'r gŵr sy'n methu â dianc o garchar y foment. Pan ddêl nos, nos yn unig sydd iddo. Y mae'n rhwym wrth