chwarel, a hwnnw wedi ei fframio'n barod. I symudiadau'r edrychydd ei hun y perthyn sicrhau i'r pictiwr bach gyfartaledd effeithiol, a rhoddi iddo fesur cytbwys o gefndir ac wybren. Ac i'r neb a garo frws yr arlun- ydd, bydd paentio'r darluniau bychain hyn. yn ddisgyblaeth ardderchog ac yn dâl dymunol am lafur gofalus. Gan i mi fy hun weithredu arno gyda chryn lwyddiant, son- iais am y cynllun hwn wrth gyfaill a rydd hyfforddiant i blant mewn arluniaeth. Ei ateb oedd iddo'i fabwysiadu flynyddoedd yn ôl! Gwir yw'r gair nad oes dim newydd dan haul.
Da yw cofio, er hynny, nad wrth gwmpasu ehangder natur ag un edrychiad crwydr y mae ei hamgyffred a dysgu cynghanedd ei lliw a'i llun, eithr wrth graffu'n fanwl ac agos ar ei gwahanol agweddau. Dyna'r fantais o syllu arni drwy chwareli'r ffenestr. Tebyg yw'r plan hwnnw i gynllun y gwyddon. Ei ffordd yntau, yn ei ymdrech i ddwyn oddi arni gyfrinion ei bywyd a'i datblygiad, yw ei dosrannu ac edrych arni drwy'r chwyddwydr. Ymesyd ar ei