wahaniaethu rhwng marsiandïaeth yr enaid a'r ffug allanol sy'n gymaint twyll i'r llygad. Felly, yn fynych, y ceir celfyddyd "gwisgo'r ffenestr " yn trechu barn deg ac yn drysu'r safonau.
A dyna'r Ffenestr Ystaen. Pwy a edrych arni'n ystyrgar heb deimlo mai gwrthrych llygad ydyw, a'r cwbl yn y golwg? Ffenestr ddiawgrym ydyw. Am hynny, gwrthodaf ei chyfrif yn ddeiliad teilwng o deyrnas celfyddyd. Nid yr hyn a welir ar len neu ar wydr yw goreugwaith darlun, eithr yr hyn a awgrymir ganddo. Lle try fy enaid ar bererindod pell, gan faint cyfaredd gwyrth awen, mi wn fy mod yng nghysegr santeiddiolaf y celfau cain. Eithr lle'r oedaf gyda'r ffurf a'r lliw, ar glai y safaf o hyd. Nid angel a'm tywys yr adeg honno, ond creadur meidrol fel myfi ei hun. Ol llaw hwnnw a welaf fi ar bob ffenestr ystaen.
Yr hen amser gynt, a'i ffenestri bychain! Da yw ei gofio hefyd. Rhodres a berthyn i'r genhedlaeth hon—nid i'r oes o'r blaen— yw'r cyfrwystra a elwir yn wisgo'r ffenestr.