Dyna siop yr hen Barsi ym mhentref fy mebyd. Ar len y cof yn unig yr erys heddiw. Yr oedd i'w ffenestri hi gant a mwy o chwareli mân, a rhyw foglyn disglair, fel marblen fawr, ynghanol pob chwarel. Amhosibl bron oedd edrych i mewn trwyddynt. Rheswm da paham. Nid yn y ffenestr yr amlygid gogoniant y siop honno, ond yn y nwyddau a bwrcesid o'r tu mewn iddi. Yr Awen yn unig a alwai sylw atynt— pob papur pacio yn frith gan rigymau clodforus am y te a'r siwgr a'r pethau eraill, heb odl gelwyddog i'r un pennill. Ar drothwy'r drws y safai'r hen Barsi gan amlaf, a losin yn ei law i bob plentyn da." Amlwg ydoedd mai i ryw bentref arall y perthynai'r plant drwg i gyd!
Er syndod i mi, euthum heibio i siop gyffelyb y dydd o'r blaen mewn modur. "Siop yr Hen Greiriau" y gelwid honno, ac i'r amser gynt y perthynai. Mi wnawn fy llw i mi weld yr hen Barsi ar garreg y drws, a'i gap-smocio crwn, tebyg i damborîn, ar ei ben, a'r tasel aur yn hongian a gwegian uwch ei glust aswy, fel arfer; yntau'n galw'r