"Mae'n rhyfedd fel ma' Nhw'n dwad i wbod pethe," meddai William.
Y Nhw, fel rhyw dynghedfen dywyll, neu ddydd barn anochel, a bwysai ar ei feddwl- yn drymach o lawer na'r ddamwain. Yn wir, yn wyneb yr ofn hwnnw, pethau dibwys yn ei olwg oedd dymchwel y cart, colli hanner sach o flawd a'i anafu ei hun.
Y blawd ar y berth! Y fath gyfle i Deulu'r Glep! Ond am y chwŷs a'r gwaed —ffrwyth codi'r asyn bach ar ei draed a rhoi'r cart ar ei olwynion drachefn-faint fyddai'r sôn? Mi welais ddameg cam- farnu'r oesoedd yn y feidr y diwrnod hwnnw.
Erbyn holi William, wrth gwrs, nid gelyn cyfarwydd a ofnai, ond rhyw ledrith anghyffwrdd: Y Nhw-yr anferthrwydd hwnnw nad yw na gwryw na menyw, nac unigolyn na mintai, na dim yn y byd y gellir ei leoli a'i amgylchu; "Y Boblach," sef Y Werin, eithr nid y gaethferch leol a adwaenai, ond yr hen glebren gwmpasog nad yw'n neb am ei bod yn bawb; hyhi yr ymbiliodd Pantycelyn am i Dduw'r nef