dyna sgrech annaearol o nos y parddu, a'r ddau hogyn yn ffoi trwy'r drws, a phedolau eu clocs" yn taro mellt ar y main." Aeth yn drad moch" yn yr ysgol hefyd—penbleth ac anhrefn a chrïo—a'r meistr yn gweiddi nad oedd yr un ellyll yn y simnai, nac yn y trawstiau, nac yn unman arall ond yn nhwll gwddf yr hen ddewin ei hunan. Ond waeth iddo heb. Yr oeddem oll, â'n clustiau ein hunain, wedi clywed ein trin a'n trafod gan leisiwr anwel a allai fod mewn lle a pheidio â bod yno ar yr un pryd.
Y mae'r Sgrâd—yr hen aderyn afrosgo hwnnw, o bawb,—wedi dysgu'r un tric. O leiaf, y mae'n medru taflu ei lais, a chaniatáu mai llais yw'r hen sgrafell ddanheddog a rygnir ganddo mor ddyfal wedi i'r cae gwair dywyllu. Rhydd lonydd i'ch teimladau. personol; ond fe ewch yn grac ar eich gwaethaf o fethu'n lân a lleoli ei hen grafu sychlyd, aflafar. Gellwch wneud yr un sŵn ag yntau wrth osod nifer o geiniogau un uwchben y llall, yn null grisiau, a thynnu ymyl ceiniog arall i lawr dros eu hymylau hwy. Ond ar waethaf tipyn o "lenladrad"