felly, y mae gwybod lle y mae ef ei hunan wrthi yn gofyn am hollwybodolrwydd neu ynteu allu i fod mewn cant o leoedd ar yr un pryd. Yn y gongl acw wrth y ddraenen wen! Fe gerddwch yn chwannog i'r cyfeiriad hwnnw a mynd ar eich llw taw yno y mae. Wedi cyrraedd y fan honno fe'i clywch yn rhygnu ar ei hen styrmant cras yn union yn y gongl y daethoch ohoni ym mhen arall y cae!
Un o'u hadar hwy, Y Nhw, yw'r Sgrâd of ran ei dalent; ond ei fod ef, druan anwydog, yn ein poeni mewn modd digon amhersonol. Arnom ni y mae'r bai am fynd mor ddwl o dymherus o achos ei hen sgrafell holl- bresennol. Y mae rhywbeth allan o'i le arnom ein bod yn malio cymaint am y sgrafellwyr eraill hefyd. Da fyddai medru lluchio arnynt dipyn o ddirmyg deifiol Joseph Chamberlain gynt:
They say? What say they? Let them say!
Gwn am fferm sydd yn enwog am ei theirw cas o dymor i dymor. Yr eglurhad yw, mae'n debyg, fod ar y cyffiniau