Tudalen:Ysgrifau (Dewi Emrys).djvu/77

Gwirwyd y dudalen hon

Nid Shemi Wâd oedd ei enw bedydd; a chlywais hen grwt o glapgi yn yr ysgol yn syrthio i amryfusedd ofnadwy wrth geisio rhoi ffurf Saesneg i'r enw cynefin. Dweud yr oedd wrth y meistr am grytiaid a fu'n dwyn fale."

"Where did you see them?" holai'r meistr.

"In the garden of James Blood, sir," oedd ateb y clapgi.

James Wade oedd enw cywir yr hen frawd. Aeth James yn "Jim," a Wade yn "Wâd " yn gynnar yn ei hanes. Ond wedi iddo heneiddio a thyfu barf y troes Jim yn "Shemi." Barf gadwynog, yn cylchu ei wyneb o glust i glust, oedd ganddo, a'i ddwy foch yn lân loyw, fel dwy ynys binc yng nghanol ewynlliw tonnau. Dyna'r unig fannau glân ar ei holl gorff, mi dybiaf; a hynny oherwydd ei awydd hunanol i ymgadw at ffasiwn hen benaethiaid y môr yr adeg honno.

Hen longwr oedd yntau hefyd, er nad hwyliasai erioed o olwg tir ond yn y niwl. Mynnai, er hynny, i'r dô ifanc gredu nad