oedd gwlad dan haul nad ymwelsai ef â hi yn ystod ei fordeithiau. Ffrwyth y balchder mentrus hwnnw oedd gosod Indiaid Cochion yn Ynysoedd Fiji ac Escimoiaid yn Neheubarth Affrica, a llawer anghaffael arall yng nghwrs y chwedlau annichon y mynnai ef i ni goelio eu bod " yn wir bob gair."
Yr wyf yn dra sicr ei fod ef ei hun—o'u mynych adrodd—yn eu coledd ar y diwedd fel ffeithiau; oblegid âi'n lled sarrug pan amlygid amheuaeth ynghylch geirwiredd ei straeon. Ei ffordd arferol o ddial oedd saethu bwled o sudd dybaco o'i enau yn syth i lygad yr amheuwr; ac ni welais i neb erioed a fedrai anelu poeryn gyda'r fath gywirdeb digamsyniol. Hen lanc ydoedd. Felly, cafodd ddigon o ryddid i ymarfer â'r grefft hyd yn oed yn ei fwthyn. Yr oedd lloriau'r ddau ben—y gegin a'r "pen ucha," fel y gelwir yr ystafell orau ym mythynnod Dyfed—yn batrymau poer myg— lys drostynt; a gellid tybio wrth y parwyd— ydd hefyd, yma ac acw, iddo fod wrthi'n o ddyfal yn ymgyrraedd at berffeithrwydd. Fodd bynnag, yr oedd yn "saethwr" sicr