odiaeth pan fynnai; a dim ond ynfytyn neu wrandawr dieithr-druan ohono!-a fentrai fradychu anghrediniaeth o fewn teirllath neu bedair i'w geg.
Mynnai inni hefyd ei ystyried yn gapten. Ond ni chododd yn uwch erioed ar y dŵr na bod yn berchen hen gwch pysgota y dibynnai ei fywoliaeth arno yn ystod ei flynyddoedd olaf ym mhentref ei febyd. Rhyw stwlcyn byr ydoedd yn ymwisgo beunydd mewn siersi las a het Souwester, a sbwt o bibell glai, mor ddu â'i hen gwch tarrog, yn hongian, bowlen i waered, o gornel ei wefl.
Safai, fel rheol, ar ben Rhiw'r Post, a'i gefn at wal y pistyll, a'i ddwylo yng ngwaelodion llogellau ei lodrau hael; ac yno yr adlonnid y minteioedd â'i chwedlau am- rywiol. Pan chwarddai, gwasgai lafnau ei ysgwyddau at ei gilydd a'u dirwyn o gwmpas ei wegil, malpai holl chwain y cread yn cnoi ei feingefn. Yn wir, yr oedd codi ei ysgwyddau at ei glustiau, yn enwedig wrth siarad, yn arfer ganddo; a chystal cydnabod