Wele'r stori, mor agos ag y gallaf, yn ei eiriau ef ei hun, gyda'r eglurhad mai yn nhafodiaith Dyfed y llefarai:
"'Rown i'n fferst mêt ar y Royal Duke, llong fowr bedwar mast, a'i ffiger-hed hi gwmint beder gwaith-wel, gwmint dair gwaith, minno,-â'r Frenni Fowr. Fe landes un dwarnod yn Milffwrt. Wedd digon o arian 'da fi-'y nghiflog, bid shŵr; ond yr own i wedi câl lot o berle hifid gida. brenin y Fiji Islands am safio'i wraig e' oddi wrth y Red Indians. Fe ath i natur fowr ata' i ar ôl hinni-gweud 'mod i'n leico'i wraig e'. Ond y gwir am dani yw taw hi wedd yn in' leico i. Fe allwn weud lot; ond 'sdim ots am hinni'n awr. Ar ôl i'r hen frenin ddechre termo, fe redes bant o'r inis honno-nid am fod arna' i ofon yr hen sgirmwgin; ond yr own i am stico at y perle. Fe'u gwerthes i nhw yn Falpareiso; ac fe gesum drigen punt am denyn nhw . . .
"Wel, gan nad beth i fo, fe landes yn Milffwrt. 'Nawr ma' 'na ganans mowron yn Milffwrt oddi ar yr hen rifelodd rhwng yr Eifftied a'r Cimri; a ma'u trwyne nhw'n