pwynto mâs i'r môr i gadw gelinion bant; nid fel ni ffor' hon-yn gadel y bae'n agwred i bob hen fforiner sy' ishe dwad miwn 'ma . . .
A gweud y gwir yn blain, fe esum ar y sbri fowr yn Milffwrt-cwrdd â hen ship- mets a hwn a'r llall; a chyn pen wsnoth, wedd 'da fi ddim ffirling goch yn 'y nghoden. Wel, cered o bwti'n awr, a meddwl am gatre 'ma, a chisho difalu shwt drafeilwn i'n ôl, a finne heb arian i dalu am y côtsh. Fe dda'th i'r glaw mowr hifid y nosweth honno, a dim gwely, wrth gwrs, i hen forwr heb senten yn 'i goden e' . . . Jawch! Fe gofies, chi, am hen ganan mowr y gallwn i gwsgu indo. A dima fi ato, wedi iddi ddechre tiwillu, a saco 'nhrâd miwn ginta i'r mwswl, a gadel dim ond blân 'y nhrwyn i mâs. Fe gwsges fel mochyn deiar . . .
"Ond dima fi'n câl hen freuddwd cas— gweld brenin y Fijis wedi 'nala i a'n rhoi i i sefyll reit o'i flân e', a milodd o ddinion duon rownd abowt iddo, a drwm mowr ofnadwi 'da bob un. Dima'r hen frenin yn codi'i law'n sudan. Sgrwsh!' minte fe,