FEL eraill, bûm yn ddigon byrbwyll i gredu. mai rhyfel i roi terfyn ar ryfel oedd y gyflafan fawr a ddechreuodd ym mis Awst, 1914; ac ar ôl gweld erchylltra ymosodiadau llongau awyr yr Almaen, mi a deflais ymaith ddiwyg y pulpud a gwisgo am danaf arfogaeth Byddin Prydain Fawr. Tybiwn fy mod yn troi i ymgyrch santaidd, i grwsâd marchogion Y Grog.
I Berkhampstead yr euthum gyntaf i'm hyfforddi yng nghrefft y triniwr arfau. Yn y dref honno, gyda llaw, y ganed William Cowper y bardd Seisnig. Yr oeddwn yn gynefin â'i weithiau cyn hynny; a darllenaswn ei lythyrau coeth a chryn lawer o'i hanes. Druan o Cowper, a'i helbulon a'i ddioddef parhaus, a nos amwyll yn disgyn arno o bryd i bryd, rhwng ysbeidiau o ddydd toreithiog, a'i amgylchu'n llwyr yn y diwedd. Eto ef, yn ei iaith gyfoethog ei hun, a emynodd fel hyn:
Trwy ddirgel ffyrdd y mae yr Iôr
Yn dwyn Ei waith i ben;
Mae'n plannu Ei gamre yn y môr,
Mae'n marchog storm y nen.