Dechrau rhyfedd i mi yn y fyddin— gwneud gelyn anghymodlawn o gymydog y bore cyntaf, a'm chwerwder tuag at yr Almaenwr wedi troi'n chwerwder gwaeth tuag at gyd-filwr.
Yn y sied fwyta, ymborthai'r gatrawd yn adrannau bychain sefydlog, a'r milwyr eu hunain ym mhob adran, am yn ail â'i gilydd, yn gwasanaethu'n wythnosol, ddau ar y tro, fel heilyddion. Tomas oedd un o'r ddau yn fy adran i yr wythnos gyntaf; ac fe ddylech weld y modd sarhaus y lluchiai ataf y cyllyll, y ffyrc, y llwyau a'r llestri oll. Aent weithiau dros ymyl y bwrdd i'r llawr, ac yntau, fel llamhidydd, yn gorfod eu dilyn a'u dychwelyd yn fwy pwyllog, a phawb yn chwerthin ac edmygu ei ystwythder. Eisteddwn fel sant heb gymryd arnaf sylwi ar ei derfysg a'i ddial; ond pan ddôi fy nhro i gyflawni'r un ddyletswydd, anghofiwn dalu da am ddrwg. "Llygad am lygad, a dant am ddant," oedd fy egwyddor; a'r egwyddor honno, gwaetha'r modd, a lywodraethai bob ymwneud rhwng Tomas a minnau.