Er fy ngorfodi i sefyll nesaf ato ar ei law ddehau yn y sgwad, fe wnawn fy ngorau glas ar bob achlysur arall i gadw o'i ffordd. Ond cyn hir, dechreuais dybio bod yr hen ringyll (a soniai gymaint am India a'i dewiniaeth) wedi ein rhibo, chwedl brodorion Dyfed, fel na allem ddianc o ffordd ein gilydd. Gan nad beth am hynny, po fwyaf yr ymdrechwn i osgoi'r creadur, amlaf i gyd. y rhedwn i mewn iddo.
Awn i ddarlith fin nos i glywed sut i ollwng bom o'm llaw heb chwythu fy mhen fy hunan i ffwrdd, sut i dynnu bidog o ymysgaroedd gwrthwynebydd ar ôl ei wanu trwy'i ddillad a'i harnais, a phethau buddiol o'r fath, a rhywun neu'i gilydd yn llewygu bob tro—crytiaid ifeinc o'r Ysgolion Cyhoeddus, fel rheol. Eisteddwn yn y mannau mwyaf annhebyg gan ddweud wrthyf fy hun: "Ddaw e' ddim fan hyn, ta beth." Ond cyn wired â phader, fe fyddai Tomas naill ai wrth fy ochr, neu o'r tu ôl i mi, neu ynteu'n uniongyrchol o'm blaen, fel corff y farwolaeth. Nid eisteddwn wrth fwrdd mewn sied goffi, nac ar fainc mewn