Tudalen:Ysgrifau (Dewi Emrys).djvu/98

Gwirwyd y dudalen hon

Rhaid oedd pasio i mewn i'r Cwmni cyn mwynhau'r fraint honno. Ond fe ddaeth hynny; a da y cofiaf y glanhau a'r ysgleinio nos Wener-llathru'r stropiau a'r byclau, a gloywi'r dryll a'r fidog, cyn ymddangos, am y tro cyntaf, ym mharêd y Cyrnol. Gwir yw'r gair, amheued a amheuo, mai Tomas, o bawb, oedd ar fy llaw aswy, yn rheng olaf y gatrawd, y bore hwnnw! Daeth llais y Cyrnol megis llais o hirbell, cyn llunio'r byd, cyn lledu'r nefoedd wen":

"Talion! 'Shun!"

Wedyn, ar ôl ysgogiad sydyn, cydamserol, megis ysgytiad un gŵr, mil a mwy o ddynion. yn sefyll yn unionsyth a digyffro, fel fforest o binwydd, a'u bidogau gloywon yn fflam wen goruwch y cynnull distaw. Ond yr oedd blaen bidog Tomas wedi brathu fy nghlust aswy; a'r funud honno, yn erbyn corun fy nghap y gorffwysai, a minnau'n gorfod aros mor llonydd â phost llidiart.

Y fath ollyngdod oedd y "Stand easy," pryd y caniateir i'r rhengoedd ymollwng a chydgyfathrachu! Y peth cyntaf a