Tudalen:Ysgrifau (Dewi Emrys).djvu/99

Gwirwyd y dudalen hon

wneuthum oedd dangos fy nghlust waedlyd i Tomas. Wedi hynny, rhegi fy rheg gyntaf yn y fyddin, a'i daro yn ei fol â chefn fy llaw.

"Fighting in the ranks, eh?" ebr llais awdurdodol o'r tu ôl i mi. "On orders Monday morning, you two!" A dyna'n henwau i lawr ar lyfr y rhingyll ar gyfer ymddangos, fore Llun, fel drwgweithredwyr o flaen Capten y Cwmni y perthynem. ein dau iddo, sef Cwmni B.

Yn union ar ôl y parêd, a'r milwyr yn loitran o gwmpas yn y cae, eglurodd yr hen ringyll y buasai wedi ein gadael yn ddisylw oni bai bod llygaid swyddog uwch arnom yr un pryd.

"Wel, gadewch i mi gael siarad â'r Capten yn awr tra bo'r glust yma'n friw." Gan mai "preifat" oeddwn yr adeg honno, ni fedrwn ymgynghori â'r Capten ond trwy ringyll. Cydymffurfiodd y rhingyll â'm cais; a chyn hir yr oedd Tomas a minnau yn sefyll o flaen y Capten ar y cae, a minnau'n egluro'r amgylchiadau.