Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/10

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGAIR

DDWY flynedd a hanner yn ol cyhoeddwyd "Gair y Deyrnas," cyfrol o bregethau gan y Diweddar Barchedig John Puleston Jones, M.A., D.D.. Croesawyd honno yn siriol odiaeth, a chaed ail-argraffiad o honi. Llawn fwriadai'r awdur, pe cawsai fyw, gyhoeddi ail gyfrol o bregethau, ond galwyd ef oddiwrth ei waith at ei wobr cyn cyflawni'r bwriad hwnnw. Ar gais cyfeillion lawer, cesglais ynghyd nifer o'r llu ysgrifau o waith yr annwyl Buleston a geid mewn gwahanol gylchgronau a newyddiadaron. Dewiswyd y rhain am y tybiwn eu bod yn enghreifftiau teg o wahanol arweddau ar ei ddawn, a'u bod hefyd o ddiddordeb i gylch eang o ddarllenwyr.

Diolchwn yn gynnes am y caniatad parod a roed i ail-gyhoeddi erthyglau gan Olygwyr Y Drysorfa, Y Geninen, Yr Efrydydd, Y Goleuad, Y Cymro, Y Genedl, Y Brython.

Dyma'r tro cyntaf i'r Ysgrifau ar "Yr Iawn " ymddangos. Cynlluniasai'r awdur i ysgrifennu llyfr o naw pennod ar y pwnc mawr hwn; darllenasai'n helaeth ers blynyddoedd ar gyfer hynny, ac ar hyn yr oedd ei fryd yn ystod ei gystudd trwm. Pan ballodd ei nerth, ar gychwyn y bumed bennod ar "Ystyr Maddeuant" yr oedd. "Beth," meddai, "ar fyr