sonol a chymdeithasol. Y naill o'r ddau yw maen spring moesoldeb, a'r llall yw maen spring crefydd. Ond er bod raid i ni gymryd yn ganiataol fod y ddau yn hanfodol i berffeithrwydd, y gwir a'r da, fe ymddengys y ddau, o'u datguddio mewn crefydd a moesoldeb, yn anghydwedd â'i gilydd. Nid gwiw gwadu'r anghysondeb ymddangosiadol, na'i fychanu mewn un modd. Ac yn wir fe gymer Syr Henry gryn drafferth i ledu allan y gwrthgyferbyniad. Fe ddeil, yn briodol a grymus iawn, mai camsyniad dybryd yw aberthu'r naill er mwyn y llall, aberthu'r da er mwyn y gwir neu y gwir er mwyn y da. Y mae gan y ddau eu hawliau, a cholli'r ffordd a wneir wrth anwybyddu un o'r ddau.
Dyna a ellir ei ddisgwyl i athroniaeth foddhaol ei wneud. Hi wna hynny mewn dwy ffordd, yn (1) trwy ddangos nad yw moesoldeb ddim yn fethiant i gyd, ac yn (2) trwy ddangos nad yw'r perffeithrwydd y mae crefydd yn
yn ei addoli mo'r perffeithrwydd llonydd hwnnw y gesyd rhai gymaint o bwys ar gredu ynddo, namyn perffeithrwydd ar waith—perffeithrwydd sydd
sydd o hyd yn ymddatguddio ac yn ymgyflawni. Y gwaith ydyw'r perffeithrwydd. Nid yw'n bod ar wahân i'r gwaith sy'n ei ddatguddio. Ac er nad oes unrhyw ran o'r greadigaeth foesol chwaith, yn cyrraedd y perffeithrwydd hwnnw nas gellir mynd tu hwnt iddo, y mae hi o hyd—y mae dyn o hyd yn cyrraedd hynny o berffeithrwydd a fyddo cymeradwy dan yr amgylchiadau; fel, os rhaid dywedyd o un ochr nad yw moesoldeb byth yn medru, fe ellir dywedyd o'r ochr arall nad yw byth yn methu. Y mae cwrs y byd a Duw, felly, yn anghenraid i'w gilydd. Nid oes dim Duw heb fyd, mwy na byd heb Dduw. "Diddymdra noeth ydyw'r Diamodol heb y greadigaeth, megis y mae creadigaeth heb y Diamodol yn amhosibl." (t. 274).
Yr anhawster a ymgynnyg ar unwaith yw, pa le