y mae'r gwahaniaeth rhwng Duw a'i fyd. Yr ateb a roddir ydyw hwn: "Y mae Duw, fel yr un a arfaethodd y gwaith o'r dechreu, neu fel un nad yw'n gweithio heb wybod beth y mae yn ei wneuthur, yn fwy na'r Greadigaeth a thu hwnt iddi. Y mae Ef yn berffaith eisoes, a'r dyfodol ganddo, canys Ei ewyllys Ef sy'n cael ei sylweddoli yn y byd." (t. 271).
Mor bell o fod y gwrthdarawiad rhwng crefydd a mocsoldeb yn wrthdarawiad terfynol, ond i ni edrych yn ddyfnach, gwasanaethu ei gilydd y mae'r gwir a'r da. Cyflawni arfaeth Ei ddaioni Ef ydyw amcan holl gwrs y byd. Dyma sy'n cyfiawnhau creadigaeth a rhagluniaeth: byd ydyw hwn a luniwyd yn unswydd at fagu carictor. Ar hyn o bwnc daw Syr Henry i'r un fan a'r Proffesor Pringle—Pattison. Dyma'r fel y gesyd Syr Henry'r pwnc. "Pe digwyddai ei fod (sef bod cwrs y byd) yn rhoi i ddynol—ryw y cyfle goreu i ddysgu bod yn dda, yna y mae condemniad yr amheuwr arno, a'i waith yn gwadu nad oes Duw, yn gyfeiliornus." (t. 206).
Ond er dywedyd pob peth braidd am Dduw a ddywedai yr Hegeliaid pantheistaidd, megis Bradley ac o bosibl Bosanquet, y mae Henry Jones yn berffaith siwr fod y Duw yma sy'n cynnwys pob peth, ac nad yw pob peth ond datguddiad ohono, yn berson unigol, yn individual. Fe gred â'i holl enaid yr athrawiaeth, "Duw cariad yw "; ond ei fod yn gwneuthur y diamodau nid fel y gwneir ef gan Mactaggart, yn gymdeithas o ysbrydoedd, yn werinfa o eneidiau, namyn yn ysbryd unigol ac ymwybodol. "Dyna fyddai dyn perffaith, Duw mewn cnawd. . . . Duw Cristnogaeth rhaid fod hwnnw yn berson neu hunan ymwybodol nad oes dim yn y pen draw yn ddieithr neu estronol iddo. Nid oes dim ystyr o gwbl i ysbryd heb fod yn unigol." (t. 268).
Yn y fan yna y gwêl yr awdur sail i'r gred mewn anfarwoldeb. Rhaid fod Duw cariad yn dymuno