achub pawb; a chan fod llawer, i bob golwg, yn mynd trwy'r byd yma heb eu hachub, rhaid fod byd ar ol hwn.
Pa faint o'r gred ardderchog yma sy'n briodol ffrwyth system Syr Henry Jones sydd gwestiwn y gallai fod gwahaniaeth barn arno. Fe allai fod mwy nag a feddyliai ef o'i gredo yn deillio o'r grefydd a ddysgodd gan ei dad a'i fam. A oes posibl cysoni pantheistiaeth Hegelaidd â Duw personol, â Duw a charictor ganddo, ac yn enwedig â bod y Duw hwnnw'n gariad? Cawn ymorol y tro nesaf. Dyna fydd gennyf y tro nesaf, os byw ac iach, ymholi i ba raddau y mae'r gyfundrefn a frasluniwyd yn ddigon amherffaith yma, yn agored i feirniadaeth. A'r tro wedyn, o bydd amynedd y Golygydd yn dal, fe amcenir casglu rhai o wersi'r llyfr ardderchog hwn i rai na fedront hyd yn hyn ddygymod â'r system sydd ynddo yn ei chyfanrwydd.
II
Gwelsom yn yr ysgrif o'r blaen fod gan Syr Henry Jones beth nas ceir ond gan ychydig iawn o ddysgawdwyr yr oes yma—cyfundrefn o athrawiaeth wrth ei fodd. Dau beth sy ganddo fel gofynion (postulates) ar y trothwy, y da a'r gwir. Nid oes dim posibl mynd y tu cefn i'r un o'r ddau. Rhaid cymryd y ddau yn ganiataol. Y ddau hyn un ydynt yn y pen draw, pa faint bynnag o anghysondeb ar y wyneb a fo rhyngddynt. Ac wrth y ddau hyn, ac wrth yr angenraid o'u cysoni hwy, y rhaid i ni farnu pob peth. Os gofynnwn ni paham y credwn yn rhyddid dyn, yr ateb yw, Am