Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/103

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fod yn rhaid wrth ryddid i fagu a pherffeithio'r da. Os gofynnir paham y credwn yn rhagluniaeth y Brenin Mawr ar bob peth—popeth wedi ei arfaethu a'i drefnu—yr ateb yw, Am fod y gred mewn Duw perffaith, sylwedd a gwirionedd eithaf pob peth sy'n bod, yn golygu hynny. Tybied y gronyn lleiaf o'r tu allan i'r systemy digwyddiad distatlaf heb ei arfaethu, y mae hynny yr un peth ag ysbeilio Duw o rywfaint o'i berffeithrwydd. Dadleu sydd yn y "Goleuad" yr wythnosau hyn, a oedd Syr Henry yn Gristion. Yn y cyfamser, tra fydder yn setlo'r pwnc hwnnw, fe allai y bydd yn dipyn o dawelwch meddwl i rai goruniongred wybod ei fod yn Galfin at y carn.

Yn awr nid gwiw gwadu nad oes rhyw swyn i bob meddwl mewn cyfundrefn a honno wneud lle i bob gwir. Cnydied tiroedd breision profiad faint a fynnont, y mae'r ysguboriau, yn ol y program hwn, i fod yn ddigon helaeth i gymryd y cwbl i mewn. A rhaid addef bod yr adeilad, nid yn unig yn un prydferth dros ben, ond hefyd, i'r sawl a deimlo'n argyhoeddedig o'i gadernid ef, yn gastell o noddfa rhag amheuon. A diau y bydd yn rhaid i grefydd yr oes nesaf wrth fwy o hynny na chrefydd yr oes o'r blaen. Yr oedd crefydd, a phethau llai na chrefydd yn wir, megis barddoniaeth, astudio ieithoedd, masnach, politics, wedi cau arnynt bob un yn ei fyd ei hunan, a gado i bob byd arall gymryd ei gwrs. Yn awr, pa fodd bynnag, y mae hi'n bur wahanol. Y mae pob byd bychan weithian wedi mynd yn dalaith o ryw fyd mwy; a rhaid i safonau gwerth o bob man ddyfod i'r byd mwy hwnnw i'w barnu a'u cyfiawnhau. "Ni all crefydd y dyfodol fforddio bod yn anghyson â hi ei hun." (t. 326). Y mae yn athrawiaeth Henry Jones atebiad diwrthdro i fateroliaeth ac anwybyddiaeth yr oes sydd newydd fynd heibio ; ac y mae yn sail i'r optimistiaeth fwyaf di-ollwng. A phethau mawr iawn i'w diogelu yw'r rhai hyn—bod yn siwr o Dduw,