Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/104

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn siwr o rwymedigaethau moesoldeb, ac yn siwr bod daioni i lwyddo.

Ond y mae beth bynnag ddau gwestiwn i'w gofyn: a ydyw'r adeilad ei hun yn gadarn? ac a oes lle ynddo i bob peth y mae'r Awdur yn ei roi ynddo? Fe allai fod trydydd ymholiad at y ddau yna. Yr oedd Syr Henry Jones yn credu cyn gadarned a'r mwyaf orthodox, mai'r grefydd oreu mewn bod yw Crefydd Crist. A'r cwestiwn arall y gorfodir ni i'w ofyn yw hwn: A ydyw system Syr Henry heb wneuthur lle i ryw agweddau pur amlwg i Gristionogaeth yn ddiffyg yn y system? Neu, os mynwch chi, gofynnwch fel hyn: A ydyw'r agweddau hynny i Gristnogaeth na ddygymydd y system yma â hwy yn hanfodol i Gristnogaeth gyflawn? Fel yna o bosibl y dewisasai ef i'r cwestiwn gael ei ofyn.

(1). A ydyw cyfundrefn Henry Jones yn gadarn a safadwy fel cyfundrefn? Rhaid i adeilad ffilosoffi grefyddol fod yn atebol i ddal pob gwynt. Fel y dywedodd ef ei hun (gwel I. 101), tra y mae pob gwyddiant arall yn cael ymosod arno gan wrthwynebiadau a gyfyd o'i faes ef ei hun, fe ymosodir ar grefydd gan wrthddadleuon o bob rhyw, gan fod ei maes hi yn eangach. Y mae'r cwbl sy'n bod yn ei rhandir hi; ac o ganlyniad rhaid i'r gwyddiant a amcano'i deall hi, a rhoi trefn a dosbarth ar ei phrofiadau, fod yn barod i ymosodiad o gyfeiriadau amrywiol iawn. Ac felly, os ar system y mae ei diogelwch hi o ran ei hathrawiaeth yn gorffwys, dylai'r system honno fod yn berffaith tu hwnt. Dyna'r paham yr ŷm yn rhwym o ymorol a ydyw'r system yn ei holl rannau yn un a ddeil.

Y mae yn amheus gennyf. Meddylier, er siampl, am y drychfeddwl a grybwyllwyd yn yr ysgrif gyntaf, fod byd mor angenrheidiol i Dduw ag ydyw Duw i fyd. Ysgaredigaeth, abstraction, fyddai'r naill neu'r llall heb ei gilydd. Er bod y Proffeswr yn dweyd yn