Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/105

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bendant fod Duw yn fwy na'r gwaith hwnnw mewn amser y datguddia fo'i hunan ynddo, eto mewn rhyw ystyr yn y gwaith y mae ei berffeithrwydd ef yn gynwysedig. Y mae ei ddatguddio'i hun mewn creadigaeth yn hanfodol iddo. Yr wyf yn cydymdeimlo â'r idea mai nid bywyd llonydd yw bywyd y Duwdod Mawr, fod y Tad yn gweithio hyd yn hyn, ac mai mewn gwaith y mae yn byw. Ond wedyn, y mae deud nad yw'r Anfeidrol yn bod y tu allan i'r datguddiad o hono yn y meidrol, yn y greadigaeth, hynny yw, fel y clywais i Henry Jones yn deud mewn ymddiddan unwaith, mewn rhyw greadigaeth ;—y mae deud fel yna i mi bron yr un peth a'i wneuthur yntau yn feidrol hefyd. Yn awr nid oedd dim pellach oddi wrth fwriad Syr Henry na gwadu anfeidroldeb Duw. Gwadu anfeidroldeb Duw oedd un o brif gyfeiliornadau Plwralistiaid yn ei gyfrif ef. "Duw digonol," ebai William James, "nid Duw Anfeidrol." Nid oedd gan Henry Jones ddim trugaredd at yr athrawiaeth honno. Ac eto y mae yn lled anodd gweld sut y mae ei athrawiaeth yntau yn osgoi'r fagl. Sut y gall Duw nad yw'n bod o gwbl ond yn ei waith fod yn Anfeidrol sydd bwnc anodd iawn ffurfio unrhyw syniad clir na chymhesur arno. Yr wyf yn addef, ac y mae'r addefiad yn taro o blaid Syr Henry, fod anawsterau o'r ochr arall yn ogystal. Y mae yn bur anodd deall sut y gall Duw na meddwl na gweithredu heb fod ganddo fyd i weithredu ynddo ac arno; ond y mae'r anhawster arall yn un mwy dyrys fyth. Wrth gwrs y mae'r ddiwinyddiaeth Eglwysig yn dyfod dros yr anhawster trwy athrawiaeth y Drindod. Yn ol honno y mae Duw eisoes, ynddo'i hun, yn gymdeithas. Ond ni chawn ni ddim galw honno i fewn yn y fan yma. Ffydd ymofyn sy gennym, ac y mae'r ymofyn i fod yn annibynnol ar draddodiadau. Eithr ni all dyn yn ei fyw lai na synnu gweld ffilosoffi mewn rhyw benbleth beunydd a byth, a'r benbleth yn gyfryw ag y buasai derbyn athrawiaeth