y Tadau Eglwysig yn ei datrys rhag blaen. Y mae'r anhawster dan sylw yn enghraifft. Dyma'r Proffesor Mactaggart, athronydd a ddechreuodd yn yr un fan a Syr Henry, fel disgybl i Hegel, wedi ildio i'r anhawster a synio am berffeithrwydd heb gymdeithas, a dyfod i'r farn mai cymdeithas o eneidiau yw'r Perffaith, yr Absolute—gwladwriaeth o ysbrydoedd. Ac y mae'n deilwng o sylw mai'r gred mai cariad yw hanfod perffeithrwydd a'i tywysodd ef i'r fan yna. Nid oes dim posibl darllen gwaith Mactaggart heb gofio am idea Awstin, "Amor rogat trinitatem," y mae cariad yn gofyn trindod." Y mae yn gofyn mwy nag un, bid a fynno.
Ond (2) a bwrw, er mwyn ymresymiad, fod system Henry Jones yn safadwy—yn gyson â hi ei hun felly, a ydyw hi'n llwyddo i gael lle i bopeth y myn efo y dylai fod lle ymhob system iddynt? Y mae ef yn mynd ym mhellach lawer na'r cyffredin o Hegeliaid mewn mynnu lle i rai o wirioneddau hanfodol crefydd, pob crefydd, a Chrefydd yn yr ystyr Gymreig i'r gair hefyd Crefydd ag C fawr iddi. Ond y pwnc y munud yma yw, a wnaeth ef hynny heb roi gormod o straen ar ei gyfundrefn? a oes yn ei gyfundrefn ef le teg i'r gwirioneddau hynny, heb gael benthyg ystafell neu ddwy gan gyfundrefnau eraill?
Ymddengys i mi, er y cyfrifir fi'n ddibris o ddigywilydd am ei ddywedyd, na ddo ddim.
Er enghraifft, y mae'n dal, â holl angerdd ei natur gref gyfoethog, yr athrawiaeth o Dduw personol. Y mae ei feirniadaeth ef ar Hegeliaid, sydd, fel Mr. Bradley, yn gwadu Duw personol, yn un bendant a diamwys. "Ymddengys i mi," meddai, "yn amlwg i ddyn ar ei gyfer, na allai'r cyfryw Berffaith ag na bo'n berson, yn fod ymwybodol ac ar wahân, gyfaneddu mewn byd o wrthrychau, a'i ddatguddio'i hunan yng nghwrs y byd hwnnw." (t. 322). Ydyw, y mae'r athrawiaeth o Dduw personol yn eithaf diogel yn nwylo Henry