Jones; ond pa'r un ai diogel yng nghysgod ei system ef, ynte diogel er ei gwaethaf hi, sy gwestiwn arall. Ymddengys i lawer ohonom, braidd yn siwr, er mai Henry Jones a garem ni ar bob cyfrif ei ddilyn, fod Bradley yn gysonach â'r gy fundrefn Hegelaidd fel y coleddir hi gan y ddau. Os nad yw Duw yn bod ar wahân i'w greadigaeth, yn sicr nid yw yn gwybod oddi wrtho'i hun chwaith ar wahân iddi; a dyna oedd golygiad Edward Caird, tad ysbrydol Henry Jones; ac er nad yw Syr Henry, hyd y sylwais i, yn dyfod ar draws y pwnc yn y llyfr hwn, credaf y gellid profi oddi wrth ei waith a'i ymddiddanion mai dyna oedd ei farn yntau. Rywsut y mae'n haws cysoni Anfeidrol sydd yr un peth a gweithrediad oesol y greadigaeth, yn broses tragwyddol felly, â "Pherffaith" Mr. Bradley nag â Duw Syr Henry Jones.
Dyna drachefn yr athrawiaeth am bechod. Yr unig nodwedd dra Hegelaidd ar y llyfr yma ynglŷn â hyn o bwnc, yw bod yr Awdur yn son llai lawer yn ol yr herwydd am bechod nag am ffurfiau eraill ar ddrwg. Y mae pethau a elwir yn ddrygau naturiol cystuddiau, siomedigaethau, ac yn y blaen, yn llanw mwy o lawer o le ar y canfas na drwg moesol; a dyna a gyfrifir yn un o ddiffygion mawr y gyfundrefn Hegelaidd drwyddi. Teg cydnabod fod Henry Jones yn lanach oddi wrth y diffyg na'r un Hegeliad arall y gwn i am dano. Josiah Royce yw'r tebycaf iddo mewn mynnu rhoi ystyr wirioneddol i bechod. Y ddefod
gan doreth o Hegeliaid yw cyfrif pechod yn ffurf is ar ddaioni—da ar ganol ei fagu. Mactaggart sy'n tybied, y down ni, o bosibl, i edrych ar noswaith o feddwi yn yr un goleu ag yr ŷm eisoes yn edrych ar ryw hen ysgarmes glustogau a fu rhyngom pan yn fechgyn. Ond i Henry Jones y mae mwy mewn pechod na hynny. "Nid wyf fi," meddai, "mewn modd yn y byd yn cyfiawnhau drwg. Dal nis gallaf ei fod ynddo'i hunan yn ffurf ar y da; ni ellir dan unrhyw