amgylchiadau ei droi yn dda. Gadael lle iddo yr wyf." (t. 355). Ond atolwg beth a ddaw o system Hegel ar y tir yna? Fe ddygymydd golygiad Royce yn well lawer â phantheistiaeth Hegel—y golygiad fod pechod yn rhan o Dduw, fel y mae'r natur is yn rhan o ddyn da. Hawdd fuasai beirniadu golygiad Royce, ac o'm rhan i nid wyf yn ei dderbyn. Ond fel mater o gysonder y mae yn siwr o fod yn fwy cymharus â Hegeliaeth bur.
Ni wn i ddim a ydyw Syr Henry yn fwy llwyddiannus i gysoni Calfiniaeth a rhyddid ewyllys. Fe allai ei fod. Hyn a wn: y mae yn dyfod yn nes at eu cysoni na'r un Cymro a fu o'i flaen. Ond cawn ddychwelyd at y pwnc hwnnw yn yr ysgrif nesaf.
Beth wedyn (3) am yr athrawiaethau o gredo'r Eglwys na wnaeth Henry Jones ddim lle iddynt yn ei system? Fe ddyry ef yn ddiau ryw ystyr hanner barddonol i rai ohonynt, ystyr sy'n llygad—dynnu ac yn swyno dyn. Ac yn hyn, fel llawer peth arall, y mae ei deimlad ef yn nes at y gredo gyffredin na'i farn. Y mae ganddo sylwadau gafaelgar odiaeth ar edifeirwch, ond dim ond crybwyllion cynnil cynnil am faddeuant. Dyma un: "Gall ysbryd crefydd fodloni i ddianc rhag y byd er mwyn bod yn un â Duw. . . . Ac unwaith y cyrhaedder sicrwydd fod y pechod wedi ei faddeu, fe gilia'r pechod o'r golwg, a myned fel pe na buasai erioed." (t. 263). Am a welaf fi nid oes. yn yr iaith yna ddim i'w feirniadu o safle Crefydd Efengylaidd, ond yn unig y cwynid fod y cyfeiriadau at faddeuant yn brin. Y lle y buasai Cristnogion Efengylaidd yn anghytuno fyddai perthynas maddeuant â rhyw brofiadau yr aeth Iesu Grist drwyddynt yn y cnawd, yn enwedig y Groes a'r Atgyfodiad. Yr un fath a Green, y mae Henry Jones yn dal mai camsyniad yw cysylltu'r nerthoedd ysbrydol sydd yn achub ag unrhyw gyfres o weithredoedd a ddigwyddodd ym myd amser a hanes, ond bod Green yn cyd-