Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/11

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eiriau sy mewn maddeu heb law tynnu ymaith y gosb? Gellid ateb mewn llawer ffordd; ond y pennaf peth y medraf fi feddwl am dano yw adfer dyn i ymddiried y Brenin Mawr. Y mae canlyniadau i bechod nas gall maddeuant cu symud; ond am yr ymddiried a gollwyd, a'r help a'r cymundeb y mae'r ymddiried yn ei olygu, fe geir hwnnw i gyd yn ol." Yna addawai'r Dr. Puleston Jones drafod y syniad o faddeuant a ddysgid gan Moberley, James Drummond, a Thomas Davies, bachgen o Gymro a fu farw yn Awstralia, ond cyn cyflawni'r addewid hon, symudwyd ef i "lawenydd ei Arglwydd."

Cywirwyd ychydig yma ac acw ar yr orgraff er mwyn unffurfiaeth; ond gadawyd rhai ffurfiau fel deud yn lle dweyd neu dywedyd, gwneud yn lle gwneuthur, chi yn lle chwi pan wyddem fod gan yr ysgrifennydd ei resymau ei hun drostynt.

Hyderwn y try darllen y Gyfrol hon yn faeth i feddwl a chalon y darllenydd.

R. W. JONES.
Caergybi.
TACHWEDD 15, 1926.