yn dal mai dyn da yw'r datguddiad cyflawnaf o Dduw y gallwn ni byth ei gael, prin y byddai'n deg dywedyd yn foel ei fod ef yn gwadu Duwdod Crist. Hyn sydd sicr, ni addolodd neb Grist Iesu yn fwy di-warafun nag y gwnâi efo.
Yr wyf yn nodi'r esiamplau yna o'r gwahaniaeth rhwng Syr Henry a'r athrawiaeth gyffredin, fel y gwelo'r darllenydd beth sydd raid iddo'i dderbyn, os myn dderbyn athrawiaeth Henry Jones yn ei chyfanrwydd. Er mwyn eglurder, ac oherwydd gorfod bod yn ddigwmpas, bu raid i mi wneuthur hyn yn rhy noeth. Llawer o'r meddyliau a grybwyllais yr wyf, wrth eu hysgar oddi wrth eu cysylltiadau, ac yn enwedig wrth eu hadrodd heb y wawr o farddoniaeth oedd arnynt, wedi eu hyspeilio o'u gogoniant. Fe bair hynny i mi gofio am beth a ddywedai'r Athro'i hun wrthyf rywdro ym Mangor. Ymliw yr oeddwn ag ef rhwng difrif a chware. "Chi synnech chi, Proffesor, y llun rhyfedd sy ar ych syniadau chi gan rai o'r bechgyn yma, sy'n eu pregethu nhw yn newydd grai o'r clas.' Ie," meddai yntau, a llond ei lais o natur dda, ie, ynt—ê, Puleston, a'u deud nhw wedi oeri." Cofied y darllenydd mai cam y mae adolygiad yn ei wneud â llyfr. Bwyd wedi oeri ydyw.
Y tro nesaf bydd gennyf ddifyrrach ac angenrheitiach gwaith dangos rhyw faint, beth bynnag, o'n dyled ni i'r llyfr, pa un bynnag a gytunom ai peidio â chyfundrefn y llyfr yn ei hyd a'i lled.
III.
Rhyw esgus o feirniadaeth oedd gennym fwyaf y tro o'r blaen. Y tro yma fe amcenir cynnull rhywfaint o gynhaeaf y gwaith gafaelgar hwn. Y mae'r dynion blaenaf ym mhob cangen o wybodaeth yn fwy na'u system; a gellir eistedd wrth eu traed i ddysgu ganddynt heb ymrwymo o gwbl i dderbyn pob golyg-