iad. Ac nid yw hyn yn fwy gwir am unrhyw ddosbarth o ddysgawdwyr nag am ideolistiaid y can mlynedd diweddaf. Er maint y curo fydd weithiau ar rai ohonynt, ynddynt hwy, o blith yr holl ffilosoffyddion, y mae gobaith y pethau goreu sy'n perthyn i ddyn—barddoniaeth, moesoldeb, crefydd. Fe fu cyfundrefnau eraill y tybiai eu dysgawdwyr eu bod yn helpu crefydd. Ryw driugain mlynedd yn ol a rhagor fe ddisgwylid cryn dipyn o help oddiwrth Athroniaeth Syr William Hamilton, Athroniaeth Synnwyr Cyffredin, fel y'i gelwir weithiau; ond fe droes honno yn fwy o "fraich i blant Lot" nag o achles i obeithion a dyheadau goreu dyn. Y Kantiaid newydd, o ddyddiau Coleridge hyd yn awr, a wnaeth fwyaf o lawer i roi arfau yn nwylo'r Eglwys yn erbyn Philistiaeth a materoliaeth yr oes. A'r hyn a ddywedwn ni am yr ideolistiaid fel dosbarth sydd arbennig o wir am Henry Jones. Fe osododd y byd dan ddyled drom trwy ei waith yn rhoi ystyr ddaliadwy i ddatganiadau beirdd a diwinyddion.
Ni wn i ba ffordd well i gael hyd i rai o gyfraniadau mawr yr awdur at drysor meddwl ei oes, heb ymrwymo o gwbl i wneud pob defnydd a wna ef o honynt, na chodi esiamplau. Ac wrth chwilio am y rheini ni gymerwn rai o'r llwybrau y mae ef yn fwyaf chwannog iddynt.
(1) Un pwnc ganddo a dery bob darllenydd yw Pwysigrwydd Gwirionedd. Fe ddeil hwn nid yn unig yn erbyn awdurdod traddodiad, ond hefyd yn erbyn y gogoneddu a fu yn ddiweddar ar deimlad, ac yn erbyn y llwfrdra neu'r diffyg amynedd a fyn ddianc oddi wrth broblem gwirionedd i gysgod yr angen am weithredu. Neu os mynnwch chi, fe'i deil ef yn erbyn yr elfen ymarferol ac yn erbyn yr elfen brofiadol, yn yr ystyr gul i'r gair. "Ac nid yw o bwys i grefydd, a oes Duw mewn gwirionedd ai nad oes, ond i ni allu teimlo fel pe byddai un." (t. 21). Fe rydd bwys