mawr ar yr elfen dragwyddol sy'n perthyn i wirionedd. "Ni all crefydd, mwy na mathemadeg, ddim bod yn wir weithiau neu yma ac acw yn unig." (t. 90). Y mae Carlyle yn un o'i hoff awduron ef, ond ni fyn ar un cyfrif ei ddilyn ef ar hyn o bwnc. Meddyginaeth Carlyle at amheuon, fel y gwyddis, yw pwyso ar yr ymarferol—gwneuthur y ddyletswydd a fo nesaf atoch. Ni fyn Syr Henry mo'r feddyginiaeth hon. Er mor bwysig yw'r ymarferol, ni wna fo mo'r tro yn lle ymresymu peth allan ar dir meddwl. Hegel? neu pwy a ddywedodd? fod gan y rheswm yr hawl frenhinol i gael ei ateb o'i enau'i hun. Rhaid distewi'r amheuon yn y llys y codwyd hwy. Nid yw gwaith, er ei bwysiced, ddim digon i dawelu cwestiynau meddwl. Rhaid i wirionedd fynd yn beth y bo yn rhaid i ni wrtho. "Profi'r ydys fod gwrthrych yn beth gwirioneddol, neu fod drychfeddwl yn wir, pan fo gwadu'r peth yn dwyn canlyniadau rhy wallgof i'w hystyried." (t. 346).
Nid na ellir dyfod o hyd i wirioneddau heb law drwy ymresymu. Daw'r anian grefyddol o hyd iddo. Darganfod y mae athroniaeth fod crefydd, megis ar un llam, wedi cyrraedd pethau sydd iddi hi yn ffrwyth llafur." (t. 324). Y mae dull y bardd hefyd yn ddull cyfreithlon o gael hyd i wirionedd. "Nid gwiw meddwl mai dychymyg i gyd yw barddoniaeth. Rhan o natur pethau y mae'r bardd yn ei ddad—fachu." (t. 264). Ond unwaith y codir y cwestiwn a ydyw peth yn wir, rhaid ei ateb ar dir rheswm. Ni ellir mo'i benderfynu mwyach trwy welediad y bardd na thrwy reddf noeth y dyn duwiol. Y mae hwn yn gryn amheuthun mewn dyddiau pryd y ceir pragmadegwyr mewn ffilosoffi yn gwneud y gwir yn ddosbarth neu dalaith o deyrnas yr ymarferol, a phobl grefyddol yn dadleu fod crefydd yn brydferth neu yn fuddiol beth bynnag am ei gwir hi.
(2). Pwnc arall y mae gan Syr Henry bethau