pur anodd ei gyfieithu. Y mae gan Henry Jones ryw ddawn arbennig i arfer geiriau bychain yr iaith Saesneg gyda ryw bwyslais o'i eiddo'i hun. Dyna un o deithi prydferth ei arddull. Clywais ef rywdro, wrth ddarllen ei adroddiad ar waith y myfyrwyr, yn deud brawddeg felly. "The work done by this student was good." Pe buasai un o'r athrawon yn deud y frawddeg, hi swniasai yn ganmoliaeth ddigon llygoer; ond ganddo ef hi swniai fel pe dywedasai dri neu bedwar o ansoddeiriau heglog, ond yn gryfach na'r rheini. Medrai ddywedyd was good, a rhyw hanner safiad rhwng y geiriau, nes gwneuthur good ganddo ef yn well nag excellent gan lawer un. Felly yma, y mae yn deud small rhwng dau goma, nes bod small yn mynd yn llai na'r lleiaf. Y mae yr un fath bron ag y byddai Evan Davies, Trefriw, yn deud bod peth yn sal iawn, ac a fain Sir Drefaldwyn yn y gair sal yn ei wneud yn gan salach. "Po fwyaf yr elo dyn i mewn i fywyd eraill, cyfoethocaf oll fydd ei fywyd yntau." (t. 323). Ac fe ddengys yr Athro, mewn mwy nag un man, mai po uchaf y bo'r pethau y cyfranogo dyn o honynt, gwiriaf yn y byd fydd y ddeddf hon ynglŷn â phersonoliaeth. Dyma enghraifft o'r idea honno: "Gall fod gennyf faes tebyg o ran maint a llun a daear i faes fy nghymydog; eithr nid fy maes i yw ei faes ef, ac nad ei faes yntau yw f'un i. Ond gallwn ein dau gael gwybod yr un gwirioneddau, ufuddhau i'r un egwyddorion o ymddiried, coledd yr un syniadau crefyddol." (t. 285). Nid rhywbeth a chlawdd terfyn o'i gwmpas yw personoliaeth yn unig ddim, ond canol—bwnc i wasgar a derbyn dylanwadau.
Gwelir ar unwaith fod llawer cymhwysiad crefyddol i'r athrawiaeth hon. Buasai yn demtasiwn mynd i lawer cyfeiriad ar ei hol. Bodlonwn ar un, a dewis un o'r rhai y mae'r Athro 'i hun yn traethu cryn lawer arno, sef dibyniad creadur o ddyn yn ei fywyd moesol ar Dduw. Mewn un wedd yn wir gellid meddwl fod